Gyda phoblogaeth o ryw 98,000, mae etholaeth De Caerdydd a Phenarth yn cynnwys dwy ardal unigryw iawn, mewn dau awdurdod lleol, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae rhan Caerdydd o’r etholaeth yn cynnwys ardaloedd dosbarth gweithiol traddodiadol Butetown, Grangetown a Sblot, sy’n gartref i gymunedau ethnig amrywiol dros ben.
Ardaloedd preswyl yn bennaf yw maestrefi dwyreiniol Tredelerch, Llanrhymni, Trowbridge a Llaneirwg.
Mae rhan Bro Morgannwg o’r etholaeth yn cynnwys tref glan môr Penarth a chymunedau Larnog, Sili a Llandochau.
Vaughan Gething yw’r ail berson i gynrychioli etholaeth De Caerdydd a Phenarth yn y Cynulliad Cenedlaethol. Stephen Doughty yw’r cynrychiolydd yn San Steffan.