Vaughan Gething ydw i, Aelod Cynulliad De Caerdydd a Phenarth. Dyma rywfaint o fy hanes i a’m gwaith.
Cefais fy ngeni yn Zambia. Milfeddyg o Gymru oedd dad, a symudodd i Zambia a chwrdd â fy mam.
Dechreuais wleidydda pan oeddwn i’n 17 oed – roeddwn i eisiau ymgyrchu yn Etholiad Cyffredinol 1997. Yna, fe es i ymlaen i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe ddes i’n Llywydd Urdd y Myfyrwyr yn Aber, ac wedyn yn Llywydd du cyntaf Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru.
Ar ôl Aberystwyth, fe fues i’n astudio yng Nghaerdydd er mwyn cymhwyso fel cyfreithiwr. Es ymlaen i weithio i gwmni
Thompsons Solicitors, a dod yn bartner yno yn 2007. Dwi wedi bod yn weithgar gyda’r mudiad llafur erioed gan gynnwys sbel fel stiward siop yn y gweithle. Ymhen hir a hwyr, cefais fy mhenodi’n Llywydd ieuengaf Cyngres yr Undebau Llafur Cymru yn 2008.
Dechreuais gyfrannu fwyfwy at wleidyddiaeth ar ôl cadeirio ‘Right to Vote’, prosiect trawsbleidiol a oedd yn annog rhagor o’r cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan ym mywyd cyhoeddus Cymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw fe wnaeth llawer o’r cymunedau gwahanol fy annog i sefyll ar gyfer swydd gyhoeddus fy hun. Penderfynais fentro a chynrychioli ardal Butetown ar Gyngor Caerdydd rhwng 2004 a 2008.
Cefais fy ethol yn Aelod Cynulliad De Caerdydd a Phenarth yn 2011. I ddechrau, roeddwn i’n aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r pwyllgor Cynaliadwyedd. Mae gen i ddiddordeb mewn gwasanaethau rheilffyrdd o hyd, a fi oedd sylfaenydd a chadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar reilffyrdd. Bues i hefyd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol. Cefais fy mhenodi’n Ddirprwy Weinidog dros Drechu Tlodi yn 2013 – y gweinidog du cyntaf ymhlith gweinyddiaethau datganoledig Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Yna, cefais fy mhenodi’n Ddirprwy Weinidog Iechyd ym mis Medi 2014, ac yna’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar ôl cael fy ailethol ym mis Mai 2016.
Y tu allan i’r Cynulliad, rwy’n mwynhau gwylio rygbi a phêl-droed, fel dilynwr pybyr o’r ddwy gamp. Criced yw fy mhrif ddiléit, er mai cricedwr wedi ymddeol (yn bennaf!) ydw i bellach. Ond rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser hamdden yng nghwmni fy ngwraig a’m mab bach.